Diweddariad 15 Hydref 2024
Mae'r wefan yn adrodd stori a hanes archif gyhoeddus darlledu ar y radio o dan arweiniad myfyrwyr yn ardal Bangor yng Ngogledd Cymru. Mae'n canolbwyntio ar y 1970au a'r 1980au ond cafodd ei chydgasglu'n ddiweddarach o lawer yn 2024. Mae'n adlewyrchu cyfnod cyn i'r byd fynd ar-lein pan oedd ffrydio, gwefannau a'r cyfryngau cymdeithasol yn bethau i'r dyfodol, ac roedd darlledu trwy gyfrwng radio'n gyfrwng diwylliannol pwysicach o lawer nag ydyw heddiw. Mae stori'r cyfnod hwnnw'n dod â thechnolegau ynghyd â brwdfrydedd mawr dros ddangos yr hyn a oedd yn bosibl mewn tirwedd ddarlledu a oedd yn ynysig braidd.
Y cymhelliad allweddol dros greu'r amgylchedd hwnnw oedd yr Wythnos Rag flynyddol, pan fyddai'r myfyrwyr yn gwneud pethau hurt a gwallgof am wythnos gyda'r bwriad hysbys o godi arian i elusennau enwebedig. Beth fyddai'n fwy gwallgof na defnyddio gorsaf radio i roi cyhoeddusrwydd i'r fath ddigwyddiadau?
Cafodd y stori hon heddiw ei hysgrifennu gan grŵp bach iawn o bobl a fu'n fyfyrwyr ym Mangor yn y degawdau hynny. Fe'i hysgogwyd yn rhannol trwy ddarganfod nifer o recordiadau sain, a oedd ar dapiau rîl agored analog a chasétiau tua 40 a 50 mlynedd yn ôl. Nid yn unig yr oedd yn bosib eu chwarae, roeddent mewn cyflwr da. Nid oedd pob teclyn yn gweithio - dechreuodd hen recordydd tâp lled-broffesiynol dasgu mwg a gwneud sŵn clec pan geisiom chwarae un o'r tapiau arno. Ond roedd modd ei atgyweirio, gyda'r un sgiliau a ddysgwyd i adeiladu gorsafoedd radio 50 mlynedd ynghynt, a gyda dyfeisiau hynafol eraill roedd modd trosglwyddo'r tapiau gwerthfawr hynny ar ffurf ddigidol i gyfryngau storio modern. Defnyddid dull prosesu sain digidol o bryd i'w gilydd i leihau mwmial y prif gyflenwad trydan a phroblemau parhaol eraill ar yr hen recordiadau, ond mae'r hyn a glywch chi rŵan ar y wefan fwy neu lai'n union fel y cawsant eu recordio'n wreiddiol. Daw rhywfaint o'r deunydd yn syth o'r tapiau meistr gwreiddiol, megis llawer o'r casgliad jingls a stori BRBS a wnaed y pryd hynny. Caiff seiniau eraill eu recordio oddi ar yr awyr, fel sŵn clecian, hisian a sŵn y tâp yn symud.
Mewn cyfarfod ffodus rhwng dau hen ffrind ddiwedd 2023 daeth yn amlwg fod y recordiadau'n cynnwys talp o hanes Bangor a oedd yn gwbl unigryw, yn hynod greadigol ar y pryd i'r rhai a gymerodd ran, yn gofiadwy iawn i'r rhai oedd yn gwrando, ac yn gipolwg o'r cyfnod oedd yn werth ei gadw. Ystyriwyd llyfrgell y brifysgol, ynghyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'u Harchif Sgrin a Sain Genedlaethol. Ddeufis yn ddiweddarach cyhoeddodd cyn-fyfyrwyr Bangor gynllun i ddathlu 140 mlwyddiant y brifysgol fis Medi 2024, a dechreuodd y cysyniad ymffurfio. Darganfuwyd lle oedd hen ffrindiau eraill arni, gwnaed ceisiadau am hen recordiadau a deunyddiau cyhoeddusrwydd, a chwilio mewn hen focsys cardbord llychlyd. Daeth casgliad o hen Gylchgronau Rag, compendia o jôcs amheus, i'r fei na fyddai'n bosibl ailargraffu nifer ohonynt y dyddiau hyn, ond câi'r cylchgronau eu gwerthu yn eu miloedd i godi arian at apêl flynyddol yr Wythnos Rag i elusennau.
Roedd angen arddangos detholiad o'r amrywiol ddarnau o bapur go iawn a'r papurau a gafodd eu sganio, a daeth y syniad o greu llyfr lloffion ffisegol i'r amlwg fel rhywbeth y gallai rhywun afael ynddo a phori drwyddo. Efallai eich bod yn edrych arno nawr - mae'n cynnwys amserlenni darlledu, taflenni hysbysebu, adroddiadau derbyn, ceisiadau a sylwebaeth. Gallwch ei ddarllen yma, neu ei lawrlwytho o'r wefan hon fel ffeil i'w hargraffu. Mi welwch chi lawer o'r cynnwys wedi'i wasgaru ar y tudalennau gwe hyn, ac fel detholiad bach.
Yn yr un modd, mae oriau lu o recordiadau o allbwn yr orsaf yn bodoli, a gallwch ddod o hyd i ddetholiad ar y jiwcbocs radio. Roedd yna raglen radio awr o hyd ar ffurf rhaglen ddogfen "Coming to you live from Bangor" a wnaed yn 1979 yn adrodd hanes radio o dan arweiniad myfyrwyr ym Mangor hyd at y cyfnod hwnnw.
Roedd jinglau'n agwedd arbennig iawn ar raglenni'r orsaf i roi ymdeimlad o hunaniaeth. Gweler y casgliad jinglau i ddarganfod mwy.
Os ydych chi'n darllen hwn ac yn meddwl bod gennych chi hen ddeunyddiau - recordiadau, ceisiadau, cyhoeddusrwydd - a ddylai fod yn rhan o'r stori, cysylltwch â Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor: alumni@bangor.ac.uk.
Diolch yn fawr i bawb dros y degawdau a gyfrannodd at wneud i ddarllediadau radio o dan arweiniad myfyrwyr ddigwydd ym Mangor. Fel yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, mae rhai yn y rheng flaen fel yr holl gyflwynwyr a oedd yn trefnu eu bywydau am yr wythnos o amgylch y meicroffon a pharatoi ar ei gyfer. Nid llai yw'r lleisiau llai cyhoeddus hynny â'r arbenigedd peirianneg fel Jolly Roger a roddodd dechnoleg ynghyd a oedd yn rhagori ar y BBC yn lleol yn y cyfnod. Roedd y ffrindiau a roddodd fenthyg y recordiau, Nick a gynhyrchodd y set o jinglau arloesol gwreiddiol, a'r ffrindiau a ganiataodd i'w llofftydd fod yn stiwdios am wythnos hefyd yn bwysig. Diolch hefyd i'r rhai a ddaeth o hyd i hen ddeunydd i adrodd y stori.
Dros y 1960au hyd yr 1980au, bu datblygiadau technolegol yn fodd i wneud newidiadau enfawr o ran darlledu radio. Roedd dyfodiad y transistorau lled-ddargludol, yr ymchwiliwyd iddynt yn Ysgol Peirianneg Electronig Bangor, yn galluogi myfyrwyr i bacio setiau radio cludadwy â batris yn eu bagiau a mynd â nhw i'r brifysgol. Ymddangosodd y cychod radio anghyfreithlon ym Môr y Gogledd ac ym Môr Iwerddon, a chreodd Lwcsembwrg orsaf ddarlledu enfawr a oedd yn anelu at Brydain. Roedd cystadleuaeth ddifrifol i'r BBC am y tro cyntaf, yn enwedig gyda cherddoriaeth bop ac arian hysbysebion. Brwydrodd y BBC yn ôl gydag ad-drefnu mawr fis Medi 1967 i greu'r rhwydweithiau sydd gennym hyd y dydd heddiw, ac ymddangosodd Radio Lleol Annibynnol yn gynnar yn y 1970au, a'r rheini hefyd gydag arian hysbysebion hefyd. Ymddangosodd radio pŵer isel didrwydded mewn llawer o ddinasoedd a rhoddodd ddewis gwirioneddol wrth wrando ar radio fformat cerddoriaeth.
Byddai'r cenedlaethau o bobl ifanc a ddaeth i Fangor wrth eu bodd efo'r fath ddewis. Doedd dim e-byst, dim ffonau symudol, dim byd ar-lein yn y cyfnod hwnnw, ac roedd radio'n gyfrwng diwylliannol pwysig. Yn y 1960au a dechrau'r 1970au rhoddodd y cychod anghyfreithlon a Lwcsembwrg signalau rhesymol yng Ngogledd Cymru, ond dim ond ar y donfedd ganolig lle'r oedd yr ansawdd dechnegol yn gyfyngedig. Doedd fawr ddim o'r elfen leol, a byddai negeseuon gan eich ffrind gorau'n cymryd ddyddiau lawer yn y post cyn eu darlledu. Daeth radio annibynnol lleol FM i Lerpwl fis Hydref 1974 ac roedd signal gweddol ym Mangor, ond roedd Lerpwl ymhell i ffwrdd o hyd.
Yn naturiol ddigon, roedd myfyrwyr Ysgol Peirianneg Electronig Bangor mor awyddus i fwynhau'r danteithion cerddorol â phawb arall. Roedd gan yr Ysgol hanes hir o gymdeithas radio amatur, ac erbyn diwedd y 1960au unodd y cymhwysedd technegol hwnnw â dylanwadau cerddorol i ddod â gorsaf y donfedd ganolig i'r awyr yn rheolaidd yn ystod yr Wythnosau Rag blynyddol. Nod yr Wythnosau Rag oedd codi arian at elusennau drwy wneud pethau gwallgof am wythnos. Doedd dim modd i'r gorsafoedd hynny ennill trwyddedau, oherwydd nad oedd ffordd gyfreithiol i brifysgol ffisegol fel Bangor ennill trwydded, felly aeth y digwyddiadau yn eu blaenau beth bynnag.
Roedd radio FM ar bŵer sylweddol ychydig yn anoddach na'r donfedd ganolig, ac roedd stereo FM yn fwy cymhleth fyth, ond erbyn 1975 roedd y 'Gnome Service' y don ganolig wedi symud i 'Bangor Rag Broadcasting System' neu BRBS, ar stereo FM. Roedd yn darlledu cerddoriaeth, a set o jinglau pwrpasol i roi ymdeimlad cryf o hunaniaeth. Defnyddiwyd cysylltiadau radio o'r stiwdio i drosglwyddyddion, a adeiladwyd gan fyfyrwyr, i oresgyn tir bryniog Bangor a hefyd i roi ychydig o sicrwydd rhag colli popeth pe bai'r awdurdodau'n gwrthwynebu'r ffaith nad oedd trwydded ganddynt yr oedd yn amhosibl iddynt wneud cais amdani beth bynnag. Roedd balchder mawr mai radio'r myfyrwyr ym Mangor a ddarparodd y signal radio stereo cyntaf yng Ngogledd Cymru, a chymerodd sawl blwyddyn i'r BBC wneud hynny. Cydnabu Teledu'r BBC hynny drwy ohebu ar yr orsaf ar Wales Today fis Chwefror 1975.
Ehangodd y gwasanaeth radio byw, ymatebol a lleol hwnnw o'r Wythnos Rag i ddathliadau diwedd tymor, ac yn bwysig ddigon i Wythnos y Glas lle rhoddodd lwybr cyfathrebu arall i fyfyrwyr newydd. Ychwanegwyd y newyddion a rhaglenni dogfen cerddorol at y cyflwyniad cerddorol syml. Roedd cyflwynwyr brwd o bob disgyblaeth o blith y myfyrwyr ac ymateb brwdfrydig y gwrandawyr yn pwysleisio'r teimlad mai gorsaf radio Bangor oedd hi. Un o'r llwyddiannau pennaf oedd y llif parhaus o bobl newydd bob blwyddyn academaidd wrth i bobl hŷn symud ymlaen o'u bywydau fel myfyrwyr, oherwydd bod angen trefniadaeth ac offer yn ogystal â cymhwysedd technegol uchel. Heb os, rhoddodd BRBS wedd newydd ar gyfleoedd bywyd i nifer o fyfyrwyr.
Daw'r dystiolaeth olaf o weithgarwch yr orsaf o 1988. Ni wyddys beth a arweiniodd at ddiwedd y cyfnod hwnnw, ond mae blaenoriaethau a sgiliau ymhlith grwpiau o bobl yn mynd trwy gyfnodau naturiol. Ond mae'n rhesymol awgrymu, yn gyntaf oll fel gorsaf heb enw iawn, yna'r Gnome Service, ac yna 14 mlynedd fel BRBS, bod radio o dan arweiniad myfyrwyr am efallai 21 mlynedd wedi cyfrannu'n sylweddol at fywyd y brifysgol ym Mangor.